Neidio i'r cynnwys

1927

Oddi ar Wicipedia

19g - 20g - 21g
1870au 1880au 1890au 1900au 1910au - 1920au - 1930au 1940au 1950au 1960au 1970au
1922 1923 1924 1925 1926 - 1927 - 1928 1929 1930 1931 1932


Digwyddiadau

[golygu | golygu cod]

Genedigaethau

[golygu | golygu cod]

Marwolaethau

[golygu | golygu cod]

Y celfyddydau

[golygu | golygu cod]

Ffilmiau

[golygu | golygu cod]

Llyfrau

[golygu | golygu cod]

Cerddoriaeth

[golygu | golygu cod]

Eisteddfod Genedlaethol (Caergybi)

[golygu | golygu cod]

Gwobrau Nobel

[golygu | golygu cod]

Tywydd

[golygu | golygu cod]
  • Cofnod o hanes y gwynt mawr, a'r don fawr, ar ddydd Gwener Hydref 28, 1927, o Borthmadog i Dalsarnau, a Maentwrog:
”Y storm a nodir uchod oedd y fwyaf a ddigwyddodd erioed hyd y gwyddom, ac nid gormodiaeth a fydd dim o'r hanes hwn a adroddir amdani, ond rhy brin a chynil. Ar ôl 2 o'r gloch y nawn cododd y gwynt yn raddol o'r De. Ar ôl 6 yr hwyr, cynyddodd wedyn, ac yr oedd yn ei nerth dychrynllyd rhwng 8 a 10, yna graddol leihaodd erbyn 12eg. Rhwng 8 a 9 daeth ton anferth (tidal wave) i Borthmadog, Talsarnau, a Maentwrog. Rhedodd i mewn i'r tai yn y rhannau isaf o Borthmadog gan beri dychryn mawr. Yn y cyfamser oherwydd methu dal ei phwysau, torrodd Cob y Llyn Bach yn fwlch tua 100 llath o hyd, a thynnodd hynny y don yn ôl nes y rhedodd i'r Traeth Mawr, ac oni bae hynny, ni wyr neb faint o ddifrod, a choll ar fywydau fuasai wedi digwydd yn y dre. Gwnaeth anrhaith fawr ar ben y Cob Mawr hefyd. Maluriwyd gwely Reilffordd Gul Ffestiniog ar ei ben, fel y bu raid ei hadgyweirio o ddydd Sadwrn hyd nos Lun, cyn y gellid mynd a thren y gweithwyr fore Mawrth i fynny. Taflodd y don y wal gul wrth ben, buasent yn mesur tua hanner y Cob. Bu amryw o motor lorries yn cludo'r ysbwriel ymaith o fore Sadwrn, hyd ddydd Llun. Taflodd y gwynt y rhan fwyaf o bolion pellebyr [sic. teligraff] llinell y G.W.R, i lawr rhwng gorsaf Porthmadog a Minffordd.
Yr oedd y dŵr yn uwch o lawer na platform gorsaf y Penrhyn, a safai pobl ar feinciau, bocsus etc, i aros y tren yno. Tarodd y prif bibell ddwr yn ymyl y Gwaith Pylor gerllaw, a golchodd y don fawr dros y reilffordd a Phont Briwet, ac ysigodd y bont, a maluriodd y fences o bobtu, a thynodd y rwbel mewn llawer man odditan y reilffordd. O ochr Talsarnau i'r bont, ysgubodd y cob, sef gwely uchel y reilffordd yn glir ymaith, ac ystumiwyd y reiliau yn bob llun, a hongiai y slippers wrthynt yma ac acw, hyd orsaf Talsarnau, a bu cannoedd o ddynion yn ei thrwsio am tua pythefnos. Boddodd cannoedd o ddefaid, amryw wartheg, moch, ieir etc o gẃr ynys Llanfihangel hyd Glan y Wern, a Bron Tecwyn, ac ymhen rhai dyddiau wedi i'r dwr dreio, casglwyd cymaint ag a gafwyd o honnynt at eu [sic] gilydd yn un pentwr mawr, a thywalltwyd paraffin ar domen o goed i'w llosgi ar gae ger Capel Bron Tecwyn. Chwalwyd pob clawdd cerrig o'r Penrhyn hyd Dalsarnau, a llanwyd pob gwrych, gwifrau pigog, wire netting, â gwair, gwellt, brwyn etc. Chwalwyd cloddiau terfyn o bridd, neu dros y Cob mawr, drwy i garreg, neu rywbeth ei tharo. Gan y digwyddai fod y galw am gynyrch chwarel setts Minffordd yn isel ar y pryd, bu'r difrod ar reilffordd y G.W.R, o fantais i'r gwaith, oherwydd cludwyd oddiyno filoedd o dunelli o bob math gerrig i fyny i rai o ddwy i dair tunell o bwysau, i lanw agenau a wnaed yngwely y ffordd gan y don fawr, a'r môr, a buwyd yn eu cludo am fisoedd o dro i dro, oddi yno.” (Mwy am y storm hwn yn y Tywyddiadur.)[14]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Stolworthy, Jacob (7 Ionawr 2022). "Legendary actor Sidney Poitier, first Black man to win Best Actor Oscar, dies aged 94". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Ionawr 2022.
  2. ↑ Peter Stanford (31 Rhagfyr 2022). "Pope Benedict XVI obituary". Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2025.
  3. ↑ Fordham, John (25 Gorffennaf 2025). "Dame Cleo Laine obituary". the Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2025.
  4. ↑ Robert Thomas Jenkins. "DILLWYN, DILLWYN-LLEWELYN, (DILLWYN) VENABLES-LLEWELYN". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2025.
  5. ↑ "Biography". Mary Webb Society (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2025.
  6. ↑ Martha P. Nochimson (2011). World on Film: An Introduction (yn Saesneg). Wiley. t. 119. ISBN 9781444358339.
  7. ↑ Style and Meaning: Studies in the Detailed Analysis of Film (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Manceinion. 2005. t. 127. ISBN 9780719065255.
  8. ↑ Islwyn Ffowc Elis. "Davies, Edward Tegla (1880-1967), gweinidog (EF) a llenor". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2025.
  9. ↑ Richard Bryn Williams. "Hughes, William Meloch". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2025.
  10. ↑ Gerallt Jones. "Evans, William ('Wil Ifan' 1883-1968), gweinidog (A. Saesneg), bardd a llenor yn Gymraeg a Saesneg". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2025.
  11. ↑ "The Withered Root by Rhys Davies". Tate. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2025.
  12. ↑ David Gwenallt Jones. "Jones, Richard Idwal Mervyn (1895-1937), athro ysgol, bardd, a dramodydd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2025.
  13. ↑ Williams, John Ellis (1927). Y Corn. J.D. Davies, Blaenau Ffestiniog.
  14. ↑ Papurau Ioan Brothen LlGC